Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae'r phiol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwin sydd goch, ac yn llawn gymysg, ac fe dywelltir ohono; a holl annuwiolion y tir a yfant o'i gwaddod hi." Mi a wawriodd ar fy meddwl. Oblegid o bydd i un o'r phiolau a sonir am danynt gael ei tywallt, ni chaiff y plant ond eu purgio am ei bod yn llaw Tad. Ond gweddiwn lawer am help i ddyoddef y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo, i'n cael i'n lle.

Bellach, mi a ddibenaf a hyn, oddiwrth eich cyd-bererin yn yr ymdaith tua thragwyddoldeb.

ANN THOMAS, Dolwar.

[Arall oddiwrth yr unrhyw.]

Chwefror 11, 1801

GAREDIG FRAWD YN YR ARGLWYDD,—

Cefais gyfle i anfon hyn o leiniau attoch, i'ch gwneud yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyrau yn garedig, gan obeithio y bydd i'r pethau pwysfawr a sydd ynddynt gael lle yn fy meddwl.

Y mae'n dda genif glywed eich helynt chwithau mewn perthynas i'ch cyflwr. Gwerthfawr yw cyfaill a lŷn, fel y dywedasoch.

Daliodd gair ar fy meddwl, fe allai y byddai yn fuddiol imi ei grybwyll, ar y mater, —"Simon, mab Jonna, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn?" Meddyliais fod angen i fund heibio i frodyr a grasusau, a charu y Rhoddwr uwchlaw y rhodd.

Gair arall a ddaliodd ar fy meddwl,"Pryn y gwir, ac na werth." Fe ddaeth i fy meddwl fy mod yn fodlon i roddi yr hyn oll ar a feddwn—fy