Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na a fy nrwg—am y Mab, mewn undeb priodasol. Fy meddwl yw fod pob gair segur, a phob ysgafnder ysbryd, a phob ymddygiad ar sydd yn ymddangos yn groes i sancteiddrwydd efengylaidd, yn cwbl wadu nad adwaenom Iesu Grist. Ond yn wyneb ein mawr drieni, mor werthfawr yw meddwi am y gair hwnw,—"Yr Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr."

'Rwyf yn llonni wrth feddwl fod rhyddid i bechadur son cimmaint am Iesu Grist wrth orsedd gras,—y nefoedd yn gwenu ac uffern yn crynu. Mawrhawn ein braint ein bod wedi adnabod dim o effeithiau y cyfamamod tragywyddol wedi ei liniaethu fry. Oh am gael aros dau ddiferion y cysegr hyd yr hwyr, a chydnabod mae gwerth gwaed ydynt. Hyn a fo yn dropio pechaduriaid i'r llwch. Oh am fod wrth draed ein Duw da tra bo'm yn y byd. Yn mhellach, mi gaf anfon ychydig o helynt yr Asostiat yn y Bont. Yn y cyffredin yn lled wlithog, ac yn lled ddeffrous ar y rhan fwyaf o'r eglwys yn bresenol. Fy meddwl yw nad yw hi ddim yn ddieithr i'r gwin sydd yn cael ei ranu mhlith y disgyblion yma ar eu taith.

Os dywedaf am fy helynt fy hun, mi a ddymunaf ddweud yn dda am Dduw, am fy nghofio i yn wyneb llawer o amheuon. Ni welais i erioed gimmaint o achos i lefain am y Graig ar bob tywydd. Ac os marw, os byw, hyn yw fy ngwaedd,—Oh am fy nghael ynddo Ef, heb ddim o'm cyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r ddeddf." Clywais cyffelybiaeth am shopwr yn mynd i Gaer i brynu gwerth dau cant o bynau o guwds—cael bill parsel—hwnnw yn crogi yn y shiop—henwau a maintioli'r eiddo arno—ac i