Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Maddeuant i bechadur
Yn effeithio i fwynhad,
Er mwyn yr aberth difai
A lwyr foddlonai'r Tad.

HYMN 7.

GWELAI yn sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych   o fy mryd,
Er mai o ran 'rwyf yn adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthddrychau'r byd;
Henffych foreu,
Y caf ei weled fel y mae.

HYMN 8.

COFIA ddilyn y medelwyr,
Yn mhlith'r ysgybau treilia dy oes,
Pan fo Mynydd Seinai'n danllyd,
Gwlych dy damaid wrth y groes;
Gwel ddirgelwch mawr duwioldeb,
Cafwyd allor wrth dy droed,
Duw a dyndod arno yn dyodde,
Llef am ole i ganu ei glod.

Anne Thomas.

Daw amryw ddalennau o hymnau a phenhillion, ac yna y pum llythyr sy'n canlyn.

[Copi o lythyr a gefais oddiwrth chwaer yn yr Arglwydd.]

GAREDIG FRAWD,—

Cefais hyn o gyfleusdra i ysgrifenu attoch, gan obeithio eich bod yn iach, ac i'ch gwneuthur yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyr gwerthfawr. Mi ddymunwn nad esgeulusech anfon pethau buddiol, gan beidio sylwi ar ein hesgeulusdra ni—am y gwyddoch yr achos—diffyg meddu ar nemawr o werth ei anfon.