Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Garedig frawd, cryn dywyll yw hi yn bresenol ar eglwys y Bont, dan ergydion y byd a gwrthgilwyr. Cefais bleser un noswaith yngwyneb y pethau hyn wrth feddwl beth y mae yr Yspryd Glan yn ei ddweud am dani. Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl. "Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, o ddinas Duw." "Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn."

Hyn yn bresenol oddiwrth eich chwaer.

ANN THOMAS, Dolwar.

GAREDIG FRAWD,— Bu dda iawn genyf lawer gwaith anfon fy helynt attoch. Cefais lawer o bleser a bendith wrth ddarllain eich llythyrau, yr hyn sydd annogaeth gref iawn i'm fod yn daer arnoch nad attalioch eich llaw.

Anwyl frawd, mae'r rhyfel mor boeth yn awr ac erioed—gelynion oddifewn—gelynion oddiallan. Ond o'r cwbl, pechod y meddwl sydd yn gwasgu drymaf arnaf. Neillduol dda genyf feddwl am y gair hwnnw heddyw,—"Ac at Iesu, cyfryngwr y Testament Newydd, a gwaed y taenelliad." Rhyw beth newydd o garu athrawiaeth y glanhau. Y gair hwnw ar fy meddwl, "A gwaed Iesu Grist, ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Ni bu erioed fwy o hiraeth arnaf am fod yn bur. Y gair hwnw ar fy meddwl,—"Y tŷ, pan adeiladwyd, a adeiladwyd o gerig wedi eu cwbl naddu." Byddaf yn meddwl weithiau nad oes arnaf eisiau newid fy ngwisg byth, ond chwant bod yn lân yn fy ngwisg. Byddai'n iawn genif gael aros mwy yn