Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cysegr, fel y soninsoch yn helaeth a gwerthfawr. Yr wyf yn disgwyl yn aml ryw dywydd blin i'm cyfarfod, er nas gwn pa beth. Gair hwnw heno ar fy meddwl,—" Trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob," &c. Am help i aros gyda Duw, pa beth bynag a'm cyfarfyddo. A diolch byth am fod y ffwrnes a'r ffynnon mor agos i'w gilydd.

Nid dim neillduol yn chwaneg ar fy meddwl yn bresenol, ond cofiwch am danaf yn aml, a brysiwch anfon attaf.

Wyf, eich anheilwng chwaer, yn caru eich llwyddiant mewn corph ac yspryd.

ANN THOMAS, Dolwar.

GAREDIG FRAWD YN YR ARGLWYDD,

Yr wyf yn ysgrifenu attoch yn bresenol am fod rhediad fy meddwl, yngwyneb tywydd o bob nattur, am ddweud fy hanes i chwi, anwyl frawd.

Anwyl frawd, y peth mwyiaf neillduol sydd ar fy meddwl yw y mawr rwymau sydd arnaf i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am fy nal yngwyneb y gwyntoedd a'r llif-ddyfroedd. Gallaf ddweud na chadd fy meddyliau i erioed ei dal a'r un graddau o ofnau a'r dyddiau hyn; ond yngwyneb y cwbl 'rwyf yn meddwl hongian yn dawel wrth yr addewid werthfawr hono,—"Pan elych trwy'r dyfroedd mi a fyddaf gyda thi." Yr wyf yn meddwl ei bod yn ddigon i'm cynal rhwng dau for gyfarfod. Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidion.

Anwyl frawd, y peth mwyiaf gwasgedig sydd ar fy meddwl,—y pechadurusrwydd o fod dim a