Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welir yn mynd â blaenoriaeth fy meddwl. Yr wyf yn cywilyddio'n barchus, ac yn llawenhau mewn syndod, wrth feddwl fod yr Hwn y mae'n ddarostyngiad iddo edrych ar y pethau yn y nefoedd, etto wedi roi ei hun yn wrthddrych serch i greadur mor wael a myfi.

Yn yr olwg o'r dianrhydedd ar Dduw o roi'r lle blaenaf i ail bethau, dyma fy meddwl yn symyl. Os rhaid i natur gael ei gwasgu i afael marwolaeth oherwydd ei gwendid i ddal twniadau tanbaid haul profedigaethau, byddaf yn meddwl weithiau y caf edrych ar fy yspeilio yn llawen o'mywyd naturiol yn hytrach (os rhaid) nag i ogoniant fynd tan gwmwl wrth i natur gael ei rhwysg a'i gwrthddrychau.

Gair hwnw ar fy meddwl heno,—"Ewch allan, merched Sion, ac edrychwch ar y brenhin Solomon yn y goron a'r hon y coronodd ei fam ef ar ddydd ei ddyweddi, a dydd llawenydd ei galon ef." Yr wyf yn meddwl fod galwad uchel a neillduol ar holl ddeiliaid y cyfammod o'u tai bwrddedig ei hunain i weled ei brenhin yn arwain y goron ddrain a'r wisg borphor. Nid nid rhyfedd fod yr haul yn cuddio ei belederau pan oedd ei Greawdwr dan hoelion. Mae'n syndod i'm feddwl pwy oedd ar y groes—yr Hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân yn treiddio trwy'r nefoedd a daear ar yr un moment yn methu canfod ei greaduriaid, gwaith ei ddwylaw. Y mae fy meddwl yn boddi gormod i ddweud dim yn chwaneg ar y matter. Ond wrth edrych ar fawredd y Person, nid rhyfedd fod y gair hwnnw ar lawr,—"Yr Arglwydd a fydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder ef, efe a fawrha yr gyfraith ac a'i gwna yn anrhydeddus."