Anwyl frawd, nid rhyfedd fod y gair hwnw ar lawr,—"Cusenwch y Mab rhag iddo ddigio."
Anwyl frawd, nid dim neillduol ar fy meddwl i helaethu yn bresenol. Ond hyn a ddywedaf wrth ddibenu,—Mi a ddymunwn fod yr rhan sy'n ol o'm bywyd yn gymundeb mor agos na pherthynai imi byth mwy ddywedyd,—"Af a dychwelaf." Myfi a feddyliwn, ond cael hyn, fy mod yn dawel i gyfarfod â rhagluniaeth yn ei gwg a'i chroesau.
Dymunaf neillduol ran yn eich gweddiau. Cofiwch anfon gyda brys. Mae arnaf hiraeth am lythyr.
Wyf, eich caredig chwaer,
GAREDIG FRAWD A THAD YN YR ARGLWYDD,—
Mi dderbyniais eich llythyr ddoe, a da iawn oedd genyf ei gael, gan obeithio y bydd y pethau gwerthfawr sydd ynddo o fendith imi. 'Bu dda iawn genyf am yr ysgrythur a sylwasoch erni yn llythyr fy mrawd.
Ond, í fynd ymlaen i adrodd gronyn o'm helynt presenol i chwi. Cryn demestlog yw hi arnaf erys tro mawr. Cael llawer iawn o siomedigaethau ynwyf fy hun yn barhaus. Ond y mae'n rhaid imi ddywedyd hyn,—fod pob treialon,—pob gwyntoedd o bob nattur, yn cydweithio fel hyn—sef fy nwyn i weled mwy o fy nhrienus gyflwr wrth nattur, a mwy o'r Arglwydd yn ei ddaioni a'i hanghyfnewidioldeb tuag attaf. Bum yn ddiweddar yn neillduol bell mewn putteindra ysprydol oddiwrth yr Arglwydd, ac etto yn