Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gair, yn unig am fy nwyn a'mn dal hyd yma, a bod y rhan sy'n ol mewn parhaus gymundeb a Duw yn ei Fab, am nad allaf byth ogoneddu mwy, na chimmaint, arno na thrwy gredu a derbyn ei Fab. Help o'r nef i wneud hynny, nid o ran fy mhleser fy hun yn unig, ond o barch iddo.

Garedig frawd, nid oes nemawr yn chwaneg ar fy meddwl i ymhelaethu, ond cofiwch lawer am Sion trwy'r byd, ond yn neullduol eich mam yn y Bont, sydd â chysgodau'r hwyr bron a'i gorchuddio, a phenwyni yn ymdaenu drosti, ac mewn mesur bach yn gwybod hynny. Y gair yma sydd lawer ar fy meddwl i ac eraill hefyd wrth edrych ar ei drych llesg, anniben, digalon,—"Ai hon yw Naomi" Ymdrechwch lawer a'r Arglwydd mewn gweddi yn hachos, fel corph o dystion dros Dduw yn y byd, am fod Ei Enw mawr mewn mesur yn cael ei gyddio ganddi yn ein gwrthgiliadau.

Garedig frawd, mae'n dda iawn genyf glywed eich hanes mewn perthynas i'ch gwaith newydd.[1] Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl ar y matter, un,—"Fel hyn y gwneir i'r gwr y mae'r brenhin yn mynu ei anrhydeddu;" a'r llall, —"Diau fod Eneiniog yr Arglwydd ger fy mron, ond nid edrych Duw fel yr edrych dyn, am hynny yr oedd yn rhaid cyrchu Dafydd."

Bellach mi ddibena, gan ddymuned arnoch anfon attaf gyda brys. Wyf eich anheilwng chwaer, sy'n cyflym redeg i'r byd a bery byth.

ANN THOMAS, Dolwar
  1. Yn 1802 y cafodd John Hughes ganiatad i bregethu. Oddiwrth hynny, y mae'n debyg, y cofiodd ddyddiad y llythyr,—Ebrill, 1802.