Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GAREDIG FRAWD,—

Cefais gyfleusdra i anfon yr ychydig leiniau hyn attoch i'ch gwneuthur yn hyspys fy mod wedi derbyn eich llythyr gyda charedigrwydd

Yn y fan yma y mae dalen wedi ei rhwyso o'r ysgriflyfr, a rhaid i mi godi y darn nesaf o'r copiau argraffedig.

ac y mae yn dda gennyf gael cyfleusdra i anfon fy helynt presenol i chwi.

Anwyl frawd, ni fum i erioed yn ymddiddan a chwi, nac yn ysgrifennu attoch, gyda golwg mor wael arnaf fy hun a'r tro hwn; ac yr wyf yn cywilyddio wrth feddwl fod genyf erioed olwg wahanol. Daeth y gair hwn i'm meddwl, "Rhoddais ger dy fron ddrws agored, na ddichon neb ei gau, canys y mae gennyt ychydig nerth." Diolch byth i Dduw pob gras am gymeryd ei air gwerthfawr yn ei law i'm trin; yr wyf yn parchus gredu mai felly y mae, a bod ei arfau ef a'u hergydion yn barhaus ar y gwreiddyn o hunan-dyb sydd mor gryf yn fy natur lygredig. Eglurwyd mwy imi o'm cyflwr collfarnedig er's ychydig ddyddiau nag yn holl ysbaid fy mhroffes, a mwy o ogoniant trefn ddoeth Duw yn cyfiawnhau yr annuwiol, a'i fod yng Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun heb gyfrif iddynt eu pechodau. Yr wyf yn ami wrth orsedd gras yn rhyfeddu, diolch, a gweddio; rhyfeddu fod y Gair a'r Ysbryd Glân wedi cael ffordd i drin cyflwr y fath adyn llygredig, llawn o bob twyll, heb fy lladd. Diolch am gyfreithlondeb ffordd iachawdwriaeth; ac am ei bod yn gwobrwyo ei theithwyr. Yr wyf yn gweddio am gael treulio y gweddill sydd yn ol o'm dyddiau yn fywyd o gymdeithasu â Duw yn ei Fab Iesu Grist, y Cyfryngwr mawr rhwng Duw a dynion.