Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr wyf yn gweled fy ngholled yn fawr oblegid hyn; ond y dianrhydedd a'r amharch ar Dduw sydd fwy na hynny. Help i aros. Y mae y gair hwn yn aml ar fy meddwl—"Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros." Dymunaf arnoch anfon i mi eich golygiad ar y gair hwnnw—"Wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffuuud a ninnau, eto heb bechod." Y mae yr olwg isel sydd ar achos Duw mewn amryw fannau yn gwasgu yn ddwys ar fy meddwl. Y mae rhwymau mawrion ar bob enaid deffrous i ymdrechu llawer â Duw mewn taer weddi, am iddo anfon y gwyntoedd i chwythu ar ei ardd wywedig, fel y gwasgarer ei pheraroglau; fel y byddo Satan a holl ddeiliaid ei deyrnas

Yma yr oedd diwedd y ddalen goll; mae'r gweddill o lawysgrif John Hughes.

yn colli ei hanadl gan rym yr arogl. Yn awr i ddibenu. Dymunaf arnoch fy nghofio ger gorsedd gras. Dymunaf arnoch anfon llythyr attaf gyda cyfleusdra cyntaf. A hyn oddiwrth eich anheilwng chwaer sy'n cyflym drafaelu trwy fyd o amser i'r byd a beri byth.

ANN THOMAS, Dolwar.

Y mae'r llythyr nesaf wedi ei godi o lawysgrif Ann Griffiths ei hun. Erys y llythyr yn Llyfrgell Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, wedi ei roddi gan un o deulu'r emynyddes, y diweddar John Jones. Llanfyllin. Hwn—a'r enw crynedig yn llyfr eglwys Llanfihangel ysgrifennwyd ddydd ei phriodas, a'r enw prydferth ysgrifennodd fel tyst ym mhriodas Ruth yn yr un llyfr,—yw'r unig beth y gwyddis am dano sydd yn llawysgrif Ann Griffiths