a hynu trwy ddatgiddiad, nid yn ddychymigol, gan feddwl amgyffred y dull a'r modd y mae, yr hyn sydd eulinaddoliaeth real. Anwyl chwaer, wrth edrych gronyn ar y pechadyrusrwydd ynddo ei hun o dristau yr Ysbryd Glan, ac o'r tu arall edrych i mewn i ddyfderoedd y codwm mawr a fy mod wedi fy llwyr ddifeddianu o bob gallu i ddim ond yw dristau, mae yn o wasgedig yn wir. Ond y gair yma sydd ar fy meddwl,— "Gwyliwch a gweddiwch;" fel ped fau yr Arglwydd y dweyd "Er mor halld yw yr gorchymun, a thithau mor analluog i gyflawni un peth o fil yn y fan yna ar y tir yna o ran dy feddwl, tyred i'r maes, treia di yr orsedd, canys llawer a ddichon taer weddi yr cyfiawn; digon i ti fy ngras i, fy nerth i a berffeithir mewn gwendid." Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidon.
Anwyl chwaer, mi a ddymunwn ddweud llawer am rinwedd gweddi ddirgel, ond chwi a wyddoch fwy nag a allaf fi ddwyd am dani, ond rwyf yn gwbl o'r farn ei bod yn rhagori llawer i wynebu gelunion ar fyddin o wyr arfog. Mi a wn trwy brofiad am gael fy roundio gan elynion na feddwn ddim yw wneud ond hynu,—"Aminau a arferaf weddi;" a hynu yn ateb y diben iddynt syrthio ynwysg ei cefnau. O am y fraint o fod dan orichwiliathau manwl yr Ysbryd Glan, rwif yn meddwl yn symul na ffitia gorichwiliaeth llai manwl na'r gair hwnw byth mo ngyflwr i,—'Ar bob moment y dwfrhaf hi. Diolch byth am Fibl yn ffitio cyflwr wedi mynd mor ddyfn. Anwyl chwar, rhiw fraint fawr yw bod cyflwr ar gael yngwyneb gair Duw. O am ei ddal yn y drych sanctaidd i'r diben i wneud use o gyfryngwr.