Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un peth neillduol ar fy meddwl neithiwr mewn perthynas i feindio cyflwr yn y gair. R. J. yn llefaru'n werthfawr iawn o ran mater, a minau mor sych, mor bell o ran fy mrhofiad, nad oedd na deddf nac efengil yn gweithredu dim arnaf, a hynu a weithiodd fesur o ddychryn ar fy meddwl. Ffaelu meddwl cael fy ngyflwr yn y gair o ran fod deddf ac efengil megis yn ddifydd. Gair hwnw ddaeth im meddwl,—"Dos allan rhagot ar hyd ol y praidd;" a minau ffaelu gweld ol y praidd yn yr amgylchiad hwnw. Ond y gair hwnw ddaeth i'm meddwl gyda golau a gwres, —"Deffro di ogledd wynt, a thyred ddehau wynt." Diolch byth am graig y gair, i roi troed arni i gychwyn, a'r amosiblrwydd o gychwyn heb hynu.

Anwyl chwaer, wif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hun yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi y tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau, gallf ddweyd mai hyn sydd yn fy lloni fwyaf o bob peth y dyddiau hyn,—nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo. Cael gadel ar ol bob tueddiad croes i ewyllis Duw, gadel ar ol bob gallu i ddianrhydeddu deddf Duw, bob gwendid yn cael ei lyncu i fynu gan nerth, cael cydymffuriad cyflawn a'r gyfraith yr hon sudd eusoes ar ei calon a mwynhau delw Duw am byth. Anwyl chwaer, byddaf yn cael f'llwngu gimaint weithau i'r pethau hyn