Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel ag y byddaf yn misio yn deg a sefyll yn ffordd fy nyledswydd gyda phethau amser, ond disgwil am yr amser i gael fy natod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydiw, er ei bod yma yn dda iawn trwy ddellt, a bod yr Arglwydd yn datgyddio gymaint o'i ogoniant weithiau trwy ddrych mewn dameg a all fy ngyneddfau gweiniad i ddal.

Anwyl chwaer, mae yn dda genyf ddweyd hyn wrth ddibenu,—mi a ddymunwn ei ddweud gyda diolchgarwch,—er fy holl lygredd, a dyfais uffern, byd a'i wrthrychau, rwi o ddaioni Duw yn unig heb newid gwrthrych fy serch hyd heno; ond yn hytrach o galon am ymlonyddu yn ei gariad ac ymhyfrydu ynddo byth dan ganu, er nas caf hynu i'r graddu lleiaf tu yma i angeu ond trwy drais.

Anwyl garedig chwaer, dymynaf arnoch yn neillduol anfon ataf gydaf brys; na omeddwch fi, nis gallaf beidio a'i gymeryd yn angaredig arnoch os gwnewch. Mae Ruth yn dymuno ei chofio yn garedig atoch. Nid oes genyf ddim neillduol yw anfon atoch fel newydd ond hyn, mae rhiw ysbryd gobaithio bob dim i weld arwyddion adferiad Rachel Pugh. A hyn oddiwrth eich gredig chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i byd mawr a bery byth.

ANN THOMAS.

Er mae cwbwl groes i nattur yw fy llwybur yn y byd
I deithio wnaf a hynu yn dawel yngwerthfawr
wedd dy wyneb-pryd wrth godi yr groes ei chyfri yn goron
Mewn gorthrymderau llawen fyw ffordd yn iniawn
Er mor ddyrus i Ddinas gyfaneddol yw—