Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dorau'n agor, côr yn bywio,
I Dduw mewn cnawd yr ochor draw,
Y Tad yn siriol a'i gwahoddodd
I eistedd ar ei ddeheu law.

4. Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tân,
O am bara i lynu wrtho,
Fy enaid, byth yn ddiwahân;
Ar ddryslyd lwybrau tir Arabia,
Y mae gelynion fwy na rhi,
Rho gymdeithas dyoddefiadau
Gwerthfawr angau Calfari.

DYMA babell y cyfarfod

HYMN 2.

1 DYMA babell y cyfarfod,
Dyma gymmod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofryddion,
Dyma i gleifion feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneyd ei nyth,
A chyfiawnder pur Jehofa
Yn siriol wenu arno byth.

2. Pechadur aflan iw fy enw,
O ba rai y penna'n fyw,
Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell,
I'm gael yn dawel gwrdd â Duw;
Yno y mae'n yn llond ei gyfraith,
I'r troseddwr yn rhoi gwledd,
Duw a dyn yn gwaeddi Digon"
Yn yr Iesu,'r aberth hedd.

3. Myfi a anturiaf yno yn eon,
Teyrn wialen aur sydd yn ei law,
A hon senter at bechadur,
Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;