Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Af yn mhlaen dan waeddi "Maddeu,"
Af a syrthiaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngholchi,
Am fy nghanu yn ei waed.

4. O am ddyfod o'r anialweh
I fynu fel colofnau mwg,
Yn uniawn gyrchiol at ei orsedd,
Mae yno'n eistedd heb ei wg;
Amen diddechreu a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un,
Amlygu y mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth damniol ddyn.

Bererin llesg

HYMN 3.

1 Bererin llesg ..... rym y stormydd
Cwyd dy olwg, gwel'n awr,
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol,
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr ;
Gweregys auraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odreu clychau'n llawn
O swn maddeuant i bechadur
Ar gyfri'r anfeidrol iawn.

2. Cofiwch hyn mewn stad o wendid
Yn y dyfroedd at eich fferau sy,
Mai di rifedi yw'r cufyddau
A fesurir i chwi fry;
Er bob yn blant yr adgyfodiad
I nofio yn y dyfroedd hyn,
Ni welir gwaelod byth nag ymyl
I sylwedd mawr Bethesta lun.

3. O ddyfnderoedd iechydwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw,