Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

2. O fy enaid, gwel addasrwydd
Y person dwyfol hwn,
Mentra arno'th fywyd,
A bwrw arno'th bwn;
Y mae'n ddyn i gydymdeimlo
A'th holl wendidau i gyd,
Mae'n Dduw i gario 'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

3. Rhyw hiraeth sy am ymadael
Bob dydd a'r gwaedlyd faes,
Nid a'r arch, nac Israel,
Ond hunan ymchwydd cas;
Cael dod at fwrdd y Brenhin,
A'm gwadd i eiste'n uwch,
A minau, wan ac eiddil,
Am garu yn y llwch.

4. Er cryfed ydyw'r stormydd,
Ac ymchwydd tonau'r môr,
Doethineb ydyw pilat,
A'i enw'n gadarn Ior;
Er gwaethaf diluw pechod,
A llygredd o bob rhyw,
Diangol yn y diwedd,
Am fod yr arch yn Dduw.

PAN fo'r enaid mwyia gwresog

HYMN 7.

1. PAN fo'r enaid mwyia gwresog
Yn tanllyd garu'n mwyia byw
Y mae'r pryd hyn yn fyr o gyredd
Perffeth sanctedd gyfraith Duw;