Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O am gael ei hanrhydeddu,
Trwy dderbyn iechydwriaeth rad,
A'r cymundeb mwyia melys,
Wedi ei drochi yn y gwaed.

2. Rhyfeddu a wnai à mawr ryfeddod,
Pan ddel i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl, sy yma'n gwibio
Ar ol teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragywyddol setlo
Ar wrthddrych mawr ei berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
A phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.

Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod

HYMN 8.

1 Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth,
Ond mwy rhyfedd, wedi mhrofi,
Y dof i'r canol fel aur coeth;
Amser canu, diwrnod nithio,
Etto'n dawel, heb ddim braw,
Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfa
Y sydd a'r wyntyll yn ei law.

2. Blin yw mywyd gan elynion,
Am ei bod yn amal iawn,
Fy amgylchu maent fel gwenyn
O foreuddydd hyd brydnawn;
A'r rhai o'm ty fy hun yn bena,
Yn blaenori ufernol gad,
Trwy gymorth gras yr wyf am bara,
I ryfela hyd at waed.[1]

  1. Un hymn, hwyrach, ddylai Hymn 8 a Hymn 9 fod. "A diolch byth fod y ffwrnes a'r ffynnon mor agos i'w gilydd."—Tud, 15.