Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

S'ceina fwyfwy sy'n ymadel
O foreuddydd hyd brydnhawn.

3. Deffro, Arglwydd, gwna rymusder,
Cofia lw'r cyfamod hedd,
Gwel dy enw mawr dan orchudd
Ar y tystion yn y bedd;
Gair o'th enau dont i fyny,
Ti yw'r adgyfodiad mawr,
Ag argraffiadau yr enw newydd
Yn ddisglaer arnynt fel y wawr.

4. Hwn yw'r enaint tywalltedig
Ymddibenol arno ei hun,
I ddwyn gelynion byth yn deilwng
Wrthddrychau cariad Tri yn Un;
Mae edifeirwch wedi ei guddio,
Am hyn er neb ni thry yn ol,
Nes bod o'r llafur yn ddiangol
I dragywyddoldeb yn ei gol.

{

YNGLYN wylofain bydd fy ymdaith

HYMN 11.

1 YNGLYN wylofain bydd fy ymdaith,
Nes im weled dwyfol waed
O'r graig yn tarddu fel yr afon,
Ynddo'n wynion myrdd a wnaed;
Goleu'r.maen i fynd ymhlaen,
Sef Iesu'n gyfiawnder glân.

2. Rhyw'n hiraethu am yr amser
Y caf ddatguddiad o fy mhraint,
Iesu Grist, gwir bren y bywyd,
Hwn yw cyfiawnder pur y saint;
Ei gleimio'n ail, a'm cadarn sail,
Yn lle gwag obaith ffigys ddail.