Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HYMNAU.

HYMN 1.

OH am dreiddio i'r adnabyddiaeth

1. OH am dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a'r bywiol Dduw,
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw ;
Credu'r gair sy'n dweud am dano,
A'i nattur ynddo, amlwg yw,
Yn farwolaeth i bechadur,
Heb gael iawn o drefniad Duw.

2. Yn yr adnabyddiaeth yma,
Mae uchel drem yn dod i lawr,
Dyn yn fach, yn wael, yn ffiaidd,
Duw'n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
Gwerthfawr anhepgorol yw,
Yr enaid euog yn ei olwg,
A'i gogonedda megis Duw.

{{c|Y MAE'R Duw anfeidrol mewn trugaredd

HYMN 2

1. Y MAE'R Duw anfeidrol mewn trugaredd
A'r Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw;
Ond yn mhabell y cyfarfod,
Y mae fe ... 'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymmodlon wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

2. Yno mae fy mwyd a'n niod,
Fy noddfa a'm gorphwysfa wiw,
Fy meddyginiaethaeth a fy nhrysor,