2. Pa bo Seinai i gyd yn mygu,
A swn yr utgorn Uwcha ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn,
YNghrist y Gair, heb gael fy lladd;
Mae yno 'n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn,
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymmod trwy ei offrymu ei hun.
3. Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddyoddef angau loes,
Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr,
I'w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae'n disgleirio 'n danbaid,
Wrth faddeu yn nhrefn y cymmod rhad.
4. Of enaid, gwel y fan gorweddodd,
Pan brenhinoedd, awdwr hedd,
Y greadigaeth ynddo'n symud,
Ynte'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod fwyia angylion nef,
Gweld Duw mewn cnawd a'i gydaddoli
Mae'r côr dan waeddi "Iddo Ef."
5. Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra bo ynwi chwyth,
Am fod gwrthddrych i'w addoli,
A thestyn cân i bara byth;
Yn fy nattur wedi ei demtio,
Fel y gwaela o ddynol ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.