Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3. Byw heb wres na haul yn taro,
Byw heb allu marw mwy,
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy;
Nofio 'n afon bur y bywyd,
Diderfyn heddwch sangctaidd Dri,
Dan d'wniadau digymylau
Gwerthfawr . . . Calfari.

GWNA fi fel pren planedig

HYMN.

1. GWNA fi fel pren planedig, O fy Nuw,
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
Ond ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy.

2. Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhoi dan sel,
Lilfeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel,
Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod,
Gwlad nefol yw, uwchlaw mynegu ei chlod.

3. Jehofa yw, yn un a'i enw pur,
Cyflawnwr gwiw ei addewidion gwir ;
Mae'n codi ei law, cenhedloedd ddaw i maes,
Nodedig braw o'i rydd anfeidrol ras.

4. Cenhadon hedd, mewn efengylaidd iaith,
Sy'n galw i'r wledd dros for yr India faith;
Caiff Hottentots, Goraniaid dua ei lliw,
Farbaraidd lu, ei dwyn i deulu Duw.

A raid i'm zel, oedd farwor tanllyd

A raid i'm zel, oedd farwor tanllyd,
Un waith dros dy ogoniant gwiw,
A charedigrwydd dy ieuengtyd,
Fynd yn oerach at fy Nuw?
Breswylydd mawr yr uchelderau,
Yn awr datguddia'th wyneb llon,