Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A dyddyfna fy enaid bellach
Oddiar fronau'r greadigaeth hon.

Ar ddiwedd y llyfr ceir copi brysiog o chwech o emynnau A. G.

O'm blaen gwelaf ddrws agored

O'm blaen gwelaf ddrws agored,
Modd i hollol gael y mas,
Ynghrym y rhoddion a dderbyniodd
Yr hwn gymerodd agwedd gwas;
Ef ysbeiliodd d'wysogaethau,
Awdurdodau'r gelyn du,
Yr hwn ydoedd yn caethiwo
Mewn caethiwed yntau sy.

————

O am fywyd o sancteiddio
Enw sanctaidd pur fy Nuw, &c.

————

Blin yw mywyd gan elynion, &c.

————

Am fy mod mor lygredig

Am fy mod mor lygredig
Ac ymadael ynwy'n llawn,
Mae bod yn dy fynydd santaidd
Imi'n fraint rhagorol iawn;
Lle mae'r lleni'n cael ei difa,
A phob gorchudd yno ynghyd,
A'r newynog rai yn gwledda
Ar Iesu Grist a'i aberth drud.

O am gael ffydd i edrych

O am gael ffydd i edrych
Gyda'r angylion fry
Ar drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy;
Dwy nattur mewn un person
Yn anwahanol byth,[1]
Mewn undeb heb gymysgu,
Rhyfeddu 'rwy'n ddilyth.


  1. Y mannau hyn dechreuir ysgrifennu hen ffurf yr emyn, ond croesir yr hen allan