.
O f'enaid gwel addasrwydd
O f'enaid gwel addasrwydd
Y person rhyfedd hwn,
Anturia iddo'th fywyd,
A bwrw arno'th bwn;
Mae'n ddyn i gyd'mdeithio
A'th wendid mawr i gyd[1]
Mae'n Dduw i fynu'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.
Hyd yn hyn, y mae'r cwbl wedi ei godi o ddau lyfr llawysgrif. John Hughes neu lythyr Ann Griffiths, ac ni thrwsiasid yr un pennill at ei gyhoeddi. Yn 1806, y flwyddyn wedi marw Ann Griffiths, cyhoeddodd Charles o'r Bala gasgliad o'i hemynnau.[2] Yn eu mysg ceir y rhai sy'n dilyn, nad ydynt yn y llawysgrifau.
Dyma Frawd a anwyd ini
Dyma Frawd a anwyd ini
Erbyn cledi a phob clwy';
Ffyddlawn ydyw, llawn tosturi,
Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, Bywyd meirw,
Arch i gadw dyn yw Duw.
NID all y moroedd mawrion llydain
NID all y moroedd mawrion llydain,
Guddio pechod o un rhyw ;
Ac nis gallodd diluw cadarn
Ei foddi'n wir, mae'n awr yn fyw;
Ond gwaed yr Oen fu ar Galfaria,
Haeddiant Iesu a'i farwol glwy',
Ydyw'r môr lle caiff ei guddio,
Byth ni welir mo'no mwy.