Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

AMAETHDY mewn ceunant tawel yn sir Drefaldwyn, rhyw wyth milltir i'r de orllewin o Lanfyllin, ym mhlwy Llanfihangel yng Ngwynfa, yw Dolwar Fach. Yno, yng ngwanwyn 1776, ganwyd i John a Jane Thomas eu pedwerydd plentyn Ann, a bedyddiwyd hi Ebrill 21. Tyfodd yn eneth "o gyfansoddiad tyner, o wynepryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, yn dalach o gorffolaeth na'r cyffredin o ferched, llygaid siriol ar donn y croen, ac o olwg lled fawreddog, ac er hynny yn dra hawdd neshau ati mewn cyfeillach a hoffai." Hoffid darllen a chân yn ei chartref, a dysgodd ysgrifennu llaw gain yn rhywle. Daeth dwyster y Diwygiad i'w chartref hefyd. Aeth i Lanfyllin unwaith a'i bryd ar ddawnsio; gofynnodd hen forwyn i'r teulu a ddeuai i gapel Pendref i wrando Benjamin Jones, Pwllheli. O hynny allan bu myfyrdod yr eneth hoenus athrylithgar ar dragwyddoldeb.

Yn y seiat fechan ym Mhont Robert yr oedd dau wehydd ddaeth wedi hynny yn ysgolfeistriaid dan Charles o'r Bala. Un ohonynt oedd John Hughes, ac efe gadwodd lythyrau ac emynnau Dolwar Fach i ni. Bu'n lletya yn Nolwar; a daeth Ruth, y forwyn, yn wraig iddo wedi hynny. Yn 1800 aeth i gadw ysgol i Fathafarn, ac y mae wedi cadw rhai llythyrau, ac emynnau feallai, dderbyniodd oddiwrth Ann Thomas. Cofrestrwyd Dolwar Bach yn lle i addoli yn gyhoeddus,