Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol I.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CADER IDRIS.

GOLYGFA ODDIAR BEN MOEL ORTHRWM.[1]

"Gwlad Feirion a glodforir
Yn hwy, ie, 'n hwy na hir."—E. OWEN.

AR fore teg yn Ebrill, mi eis i ben y Foel,
I syllu o fy neutu, er ennyn difyr goel
Ar gofion ein hynafiaid, a'r wedd y byddid gynt
Yn byw eu heinioes allan, a llawer hynod hynt;
I graffu ar fawreddog glegyrog greigiau certh,
Yr Aran fawr a'r Gader yn herio grym a nerth
Tymhestloedd blwng yr oesoedd, gan chwerthin am eu pen,
Ac yna rhith-ymguddio o dan gymylog len;
Yr oedd y bore 'n dawel, yr awel yn y coed
A fethai ag ymsymud, fel pe heb law na throed;
Ymgreiniai hyd y twyni a'r llwyni oedd gerllaw;
Anghofiai ganu plygain neu glul ar gloch y gwlaw.
Gwyrddlesni y ffurfafen oedd oleu, deneu, glir,
A gallai 'r llygad syllu ymhell dros for a thir;—
Eisteddais ar ei choryn yng nghwmni 'r Awen gu,
I adrodd wrth ein gilydd wrhydri 'r oesoedd fu;
I weld y gwyllt ddelweddau a gysgant draw yn drwm,
Ar fronnau y mynyddoedd, yng nghesail gled y cwm.


  1. Mae yna nodiadau eglurhaol am y gerdd hon a'r bobl a'r llefydd sy'n cael eu crybwyll ynddi yn yr ail gyfrol DYFFRYN MAWDDACH,—Nodion ar yr "Olygfa oddiar ben Moel Orthrwm"