Ymlithro'n segur ddiog mae'r enwog afon Maw,
A delw'r bryniau oesol sydd ar ei mynwes draw;
O'r braidd nad ym yn coelio fod ansylweddol dir
O dan ei dwr grisialog ar lawer uchder clir,—
Fod coediog serth lechweddi, a llethri yn y llyn,
A phalas teg o chwithig, ac ambell fwthyn gwyn.
Ymlusga tua'r llanw, daw hwnnw cyn bo hir
I'w chyffwrdd,—yna brysia i wlad y Garan Hir.
Wi! dacw'r môr! mae'n huno fel baban tawel fryd,
A'r wenlloer yn ei warchod, gan ddyfal siglo 'i gryd.
Pwy heddyw a feddylia fod yn ei ddwyfron frad?
Mae'n fwyn, ac fel yn ofnog, dan bwysau ysgafn fâd.
Er hynny mae creulonder a digter ynddo yng nghudd,
Cynddeiriog, dirôl, ffyrnig, yw cesyg Gwyn ab Nudd;
Ond, nos dda, fôr gwenieithus, nid yw dy fradog fryd
Ond delw o'r hudolion sy beunydd yn y byd.
Llanelltyd yma welaf yn ddestlus dreflan fach,
Yn hynod sych foneddig, fel pe o uchel âch,
Yn gwenu'n ddigon gwawdus ar furiau'r Fanner gu,
Yn mynd yn gandryll friwsion rhwng bysedd difrod du;
Yr hen fynachlog anwyl! mae'n resyn bod dy wedd
Yn ail i gorff pydredig dan dywyll lenni'r bedd;
Ni chenir cred na phader ar wawr na gosper mwy,
Yr ave bêr ni phyncir, na'r sant gan blant y plwy;
Ni chlywir yn y gangell un gyngan ond y gwynt
Yn gwatwar yr alawon a genid yno gynt.
Hen greigiau mud Ardudwy, er pob rhyferthwy fu,
Sy'n gwrando'n syn fyfyriol ar drwst y Rhaiadr Du;
A Phistyll Cain a Mawddach yn chwerthin am eu pen,
A'r afon wrth ymdreiglo yn ceisio swnio sen;
Ond darfu'r dyddiau hynny, pan fyddai'r derw draw,
A'r grug ar hyd ein llethri, yn mynych ysgwyd llaw.
Brenhinbren hardd y Ganllwyd gymynwyd, er ei nerth,
A'i urddas ddynwaredir gan dduon ddrain y berth.
Mae'n resyn fod ein mawrion ar brennau'n dangos brad,
Yn mynnu gyrru ymaith o'n glynnoedd dderw'n gwlad.
Mae gair ar led y gwledydd y derfydd yn ddioed
Am wlad, os gwelir ynddi ei chŵn yn bwyta'i choed.
Trawsfynydd sydd yn synnu ar drem y drumawg fro,
O'r 'Rennig i'r Eryri, ymrithiant yn eu tro
Ger gwydd ein llygaid llawen, yn amrywiaethog wedd,
O'r dyffryn tirion, tawel, a'r cymoedd llawn o hedd,
I oror dra aruchel y creigiau cribawg crog,
Lle'r huna mawredd oesol o dan gymylawg glôg.