" Yr oedd Glasynys erbyn hyn wedi rhoi ei fryd ar gael urddau eglwysig, a chyda'r amcan hwn gadawodd yr ysgol yng Nghlynog, ac aeth at Ab Itheli Lan y Mawddwy, a bu o gryn wasanaeth i'r eisteddfodwr enwog i ddwyn oddiamgylch Eisteddfodau Dinas Mawddwy 1855 a Llangollen 1858. Yn ystod ei arosiad hefo Ab Ithel cyhoeddodd lyfryn bychan pris grot, yn yr hwn, ymysg pethau ereill, yr ymddanghosodd y rhiangerdd gyntaf a gyfansoddodd, sef Lleucu Llwyd, yr hon oedd yn ail oreu yn Eisteddfod Dinas Mawddwy, —Ab Ithel oedd y goreu,—ac arwisgwyd ef a blodeuglwm arian.
"Wedi ei drwytho yn ysbryd a chyfrinion barddas gydag Ab Ithel, gadawodd Glasynys Lanymawddwy a daeth i Feddgelert i gartrefu hefo'r Parch. William Hughes, periglor; ac yma y bu yn fawr ei barch hyd nes y derbyniodd urdd diacon gan Esgob Bangor. Yn niwedd y flwyddyn 1860 aeth oddiyma i wasanaethu swydd diacon yn Llangristiolus, Mon, ac oddi yno drachefn aeth yn gurad i Bontlotyn, sir Fynwy:
"Ni bu ei arosiad yn hir ym Mynwy, dychwelodd yn ol a bu yn aros am beth amser ym Mhorthmadog, ond yn awr (fel y digwyddai yn aml gyda'r Prydydd Hir o'i flaen), heb ddim curadaeth. Oddiyma efe a briododd â Mrs. Jones, gynt o'r Sportsman Hotel, Porthmadog, ac aethant i fyw i Dywyn, Meirionnydd, ac yma y bu farw Glasynys, Ebrill 4ydd, 1870, yn 42 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog, heb ddim i nodi man fechan ei fedd."
Yn y rhifyn hwn ceir rhai o ddarnau cyntaf anaddfed Glasynys, rhai o'i ddarnau enwocaf, a'i ddarnau olaf. Codais hwy, gan mwyaf, o'i lawysgrif, a ymddiriedwyd imi gan ei chwaer ac ereill.
Bydd y gweddill o waith barddonol Glasynys mewn un rhifyn arall. Defnyddir yr elw i roddi carreg ar ei fedd.
O. M. EDWARDS.
- LLANUWCHLLYN, 1897.
