CANIADAU ORIAU DIFYRRWCH.
RHAGDRAETH,
Yn lle gadael i fy meddwl fod yn segur, meddyliais mai nid peth allan o reswm fai cadw rhyw ychydig o'm gwaith noswylaidd, er fy hunan ddifyrrwch, ynghyda rhyw ychydig o ffrwythau awen rhai o'm cyfeillion.[1] Amcanaf yn dda gyda'r dduwies Awen; pa beth a ddaw nis gwn, ac ni chwennych i mi wybod ychwaith. Mae'n wir y gall y beirniad manylgraff weled llawer iawn o wallau, ac efallai rai gemau yma; fel pob gwaith bachgennaidd, y maent yn siwr o fod yn gymysgawl. Ond os oes i mi iechyd, efallai y daw y dydd ein pethau mawr yn lle ein pethau bychain; os byddwn yn fyw y daw ein hafonig fach i lawr o'r llethrau, i lithro hyd ddolydd hyfrydlawn dysg.
Alban Hefin, 1851.
"Cas gŵr na charo 'r wlad a'i maco,"
Tra Chymru, Cymro, a Chymraeg.
I.—DYMUNIAD Y BARDD.
CYN myned i'r beddrod i huno mewn heddwch,
Fy mhechod, O cuddier yn eigion y môr;
Fel caffwyf feddiannu ardaloedd dedwyddwch,
A byw yng ngogoniant tragyfyth yr Ior.
Fy meddrod dymunwn i gael ei orwisgo
A changau irleision o gelydd y fro,
Fel galler adnabod fy hunfan yn gryno,
Wrth edrych o'r teithydd gall ddweyd,—"Dyna fo."
Yn agos i gysgle fy mhabell ddaearol
Na thyfed un gwelltyn ireiddlas a hardd;
O boed i'r holl flodau fo iddo'n gylchynol
Ddangos eu parcheb i feddrod y bardd.
Na chaned yr adar uwchben fy ngorweddfan,
Ond boed iddynt basio fy nugell mewn hedd;
Dim canu, dim wylo, na foed ar fy meddfaen,
Dim mwstwr ychwaneg na "Thyma ei fedd."
Y wyryf deleidwiw, na cholla dy ddagrau,
Na fydd yn alarus am wrthrych dy serch,
Er idd ei farwolaeth fod iti'n ofidiau,
A chofio ei briddo yn alaeth tra erch.
- ↑ Gadewir y darnau hyn,—gwaith Talhaiarn, Elis Wyn o Wyrfai, ac ereill,—allan.