Eisteddai Enid dlos yn brudd,
A dagrau enaid ar ei grudd,
Wrth lan y llyn ar docyn brwyn,
I wrando lleddf frefiadau'r wyn.
Yr wyn a frefent am eu mam;
Fe deimlai'r wyn fod poen a cham
Yn dilyn colli hon bob pryd;
A thyna'r hyn a lanwai fryd
Y lân enethig wrth y llyn,
Nes llefodd hithau'r geiriau hyn,—
"O! unig wyf. Pa le mae 'nhad;—
Y tad siriolaf yn y wlad;—
Pa le mae mam? Fy anwyl fam,
Yr hon a'm cadwai rhag cael cam?
O! unig wyf. Heb chwaer na brawd.
I wrando 'nghwyn,—druanes dlawd!
Bum innau'n llon; pan fyddai'r ôg
Ar waith, dywedwn,—"Daw y Gog
I ganu'n glir; daw difyr haf,
Heb argoel byth ei fod yn glaf;"
Ond ymaith ffoes fy mhethau heirdd,
(Fel drychfeddyliau bywiog beirdd,
Neu ben yr enfys—nid oes ol
Ei phen bwaog ar y ddôl).
Pa beth a wnaf? Amddifad wyf;
Ni fedr y nefoedd wella 'nghlwyf.
Nis gallaf eto fyw fel hyn;
Caf fedd ac amdo yn y llyn!
Mae hynny'n well nag arch y plwyf;
Af iddo'n awr, af fel yr wyf,—
O! derbyn fi y gloyw lyn"—
A suddodd dan y tonnau tyn.
Mae'r lloer yn cneitio goleu gwyn
Hyd ddail y lili ar y llyn;
Ond dan y dŵr mae Enid lân,
Yng nghryd sigladwy 'i donnau mân;
A'r Tylwyth Teg ar lawer tro
Sy'n arfer rhodio hyd ei ro,
A son y byddant am y fun
A wnaeth ei bedd â'i llaw ei hun;
A'r lili fyth sydd uwch ei phen
Yn methu edrych tua'r nen,
Heb len o ddwfr yn gaenen fach,
Fel dagrau serch i'w gruddiau iach,
Oblegid teimla effaith syn
Y fun sy'n llonydd yn y llyn.