MYFANWY FYCHAN O GASTELL DINAS BRAN.[1]
WEDI EI GYFLWYNO I MYFANWY A BRONWEN, DWY RIAN ANWYLFRYD SYDD A'U CALON YN LLAWN O GARIAD AT GYMRU, GWLAD Y GAN.
"Gofyn ni allaf namyn—gofwy cur
Dug mewn cariad fwy-fwy:
Fynawg eirian Fyfanwy,
Fuchudd ael, fun hael, fyw'n hwy."
—Hywel ap Einion Llygliw.[2]
I.
Y GLASLWYN tawelgain, a'i wylaidd awelon,
Trigfanle y cysgod, cartrefle perorion;
Y parlas[3] briallog, yn geinwiw dryliwiog,
Yn lledu dan neithdar y cangau blodeuog;
Y dolydd gwyrddleision yn dryfrith feillionog,
Y meusydd yn llwythog o gnydau toreithiog;
Y defaid yn lluoedd ar lethrau'r mynyddoedd,
Y pysgod yn filoedd yn heigio'r aberoedd;
Syganu y gwenyn o flodyn i flodyn,
Y lasberth gysegrid gan fwynlais aderyn;
Y goedwig urddasol a'i deri hynafol,
Y masarn a'r bedw a'u golwg tyfiannol;
Y gwyddfid[4] amglyma o gwmpas y wernen,
Yr eiddew ymledol a wisga y ceubren;
Yr helyg ir hyblyg gusanant yr afon,—
A'u blaenau cyffyrddant y dyfroedd tryloewon;
Y ceunant allwestog[5] a'r ddolgwm borfelog,
- ↑ MYFANWY FYCHAN oedd rian nodedig o brydweddol, a swyn-hudodd ei thlysni Hywel ap Einion Lygliw i'w mawl-odli mewn dull a modd a enillodd iddi gilfach yn nheml anfarwoldeb. Hannai o wehelyth Tudur Trefor, a threfai yng nghastell Dinas Brân gerllaw Llangollen. Yr oedd yn ei blodau tua'r flwyddyn o.c. 1390.
- ↑ HYWEL ap EINION LLYGLIW. Cyfoeswr ydoedd ef i'r feinir harddlun, ac fel amryw o'r beirdd, yr oedd yn wan yn ochr cariad. Oes yr awen riangar ydoedd y pedwerydd cant ar ddeg. Dyma'r pryd y canodd "Dafydd ei gywydd gwin," i'w Forfudd fain, ac y plethai y tri brawd o Farchwiail (y rhai oeddynt garenydd i Myfanwy), geinion serch yn ddestlus gywreinfodd. Bernir mai yn ymyl y Bala yr aneddai y bardd.
- ↑ Dernyn hirgrwn o dir yng nghanol coedlan. Parlasg y gelwir ef weithiau.
- ↑ Gwyddfid, wood-vine.
- ↑ All-gwest-og—lle a digon o borfa rywiog.