Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae swyn mewn serch,
Mwyn, mwyn yw merch,
O draserch drysaf;
Lliw blodau'r ardd
Mor bêr a'r nardd
Mor fwyn y chwardd arnaf!
O! Myfanwy, y mae f' enaid
Yn dy garu,'r fun deg euraid,
Ar fy nwy—rudd llwyd a gwelw
Gwel fe gerfiodd serch ei ddelw;
Mae fy nghariad yn weladwy,
Mae fy enaid am Myfanwy.

Ei lliw sydd wyn,
Fel trochion llyn,
Neu ewyn y wendon;
Dau rosyn coch,
Un ar bob boch,
A welir yn wiwlon;
Pwy na chân i'r fwyn Fyfanwy?
Croenwen ydyw megis Creirwy,[1]
Glân rianon fel Aranrod,[2]
Deu-ne Gwen,[3] neu gaenen manod!
Tlysach hon na'r lon Wenonwy,[4]
Mae fy enaid am Myfanwy!

Ei dannedd mân
A'i minion glân,
O! rian gariadus!

  1. CREIRWY, medd yr hen gofiannau, oedd un o "dair gwen—rian Ynys Prydain." Merch ydoedd i Tegid o Čeridwen. Y mae Celtig Davies, yn ol ei fympwy, wedi gwneyd Ellylles genhedlig o'r fûn gariadgar hon, a myn haeru mai yr un ydyw a Proserpine, ond fod y flaenaf o fewn cylch yr Ynys Wen.
  2. ARANROD. Merch Don, a chwaer Gwydion, a ystyrrid drwy'r oesoedd y rian decaf a harddaf yng Nghred. Darllenner cân Taliesin iddi yn y Myf. Arch. cyf. I. 66. Byddai olrhain ei chysylltiad â syniadau rhiengar cenedl y Cymry yn ormod o drafferth ar hyn o bryd, digon yw dweyd mai'r ail o'r "tair gwen-rian" ydoedd.
  3. GWEN, merch Cywryd ap Croydon, bardd o'r chweched cant, oedd y drydedd o'r "tair gwen-rian."
  4. GWENONWY. Rhian nodedig o dlos ag y mae'r beirdd drwy yr oesoedd wedi bod yn ymryson canmol ei glendid a'i lledneisrwydd. Efallai mai Gwenonwy, merch Meurig brenin Morgannwg a Garth-fadryn, ydoedd. Ei gŵr oedd Gwyndaf Hen ap Emyr Llydaw. A hi ydoedd mam S. Meugan, &c., &c. Gwenonwy hefyd oedd enw merch Ifor Hael.