Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ail Ddwynwen[1] yw,
Yr hardda'n fyw,—
Llawn o'r lliw lladus.[2]
Irwedd, lanwedd, loyw—wedd Lili,
Edrych! gwel fy nagrau heli;—
Megis dafnau'n tyllu ogof,
Ysa dagrau 'nghalon ynnof!
Y mae nghariad yn ofnadwy!
Clyw fy nghwynfan, O! Myfanwy!
Meillionen wiw,
Ei llun a'i lliw,
Eilun yw Ngwenfron;
Ei dwyael main,
Uwch perlau cain,
Delw'r glain nidron![3]
O! mor swynol yw cusanu
Gwefus rudd—goch mun lygeitu;
Dan y fedwen fonwen fanwallt,
Neu gerddinen llwyn y wenallt,—[4]
Dwfn yw ngalar, afar ofwy
Am y feinir deg Myfanwy.
Mae nghân a nghwyn
Yn llenwi'r llwyn,
O eisiau'r fwyn fanon;
Fel eos lwyd
Ar ddreiniog glwyd
Yn tywallt ei chalon![5]
- ↑ DWYNWEN. Merch i Brychan Brycheiniog. Ystyrrid hi yn santes gyfryngol cariadon. Yr oedd ei heglwys ym Môn, a mynych gyrchid yno gynt i roi aberth ar ei hallor gan ddisgwyl lles o'i heiriolaeth. Bu Dafydd ap Gwilym yno amryw droiau.
- ↑ Lladus,—llad, glân, pur, peth croes i an-llad
- ↑ Nidron,—boglynau, neu wyau neidr, a wisgid gan y derwyddon. Yr oeddynt fel dwyfronneg Aaron, yn meddu dwyfoldeb, ebe'r cofion.
- ↑ Gwenallt,—the holy grove.
- ↑ Dywed traddodiad am yr eos, y cân ei hun i farwolaeth o alar ar ol ei chydmar. Tybia rhai o'r hen awduron y byddai yn dwyn ei chydmar, pan wedi marw, o dan berth ddreiniog, a chan wthio draen blaenllym i'w bron, y pynciai nodyn neu ddau clir, sef ei galargerdd; ac yna, fel wedi i effaith cyntaf y boen ddarfod, cymysgai odl brudd glwyfus,"Nes allan yr anadla,Ei henaid yn ei cherdd;Ac yna tawel huna,Yng nghil y goedlan werdd."