Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Barddonol Glasynys Cyfrol II.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ail y wylan, yn cwynfannu,
Cwyno, cwyno,—byth yn canu;
Trydar beunydd fel colomen
Am y fywiol siriol seren;—
Dos yn llatai[1] ddwfr y Ddyfrdwy,
Dwed fy nghwyn i'r fwyn Fyfanwy.


Fel alarch gwyn,
Ar loyw lyn,
Neu forwydd[2] wrth farw;—
Mae nghalon lân,
Yn deilchion mân,
O! rian, mae'n arw!
Ust! rho yma'th glust i glywed!
Dere Euron galon galed![3]
Min fy medd,—tydi a'm lleddaist,
Do, fy nghalon dirion dorraist;—
Rhof er hyn wastadol ofwy,
I fy anwyl, lân Fyfanwy.'

Pan gwedi dweyd ei gwyn yng nghlust yr awel
Ym mreichiau esmwyth cwsg fe hunai Hywel;
Ond ysbryd nwyfus bardd ni fydd yn llonydd,
Mae fel helygog lwyn ar fin afonydd;
Neu ben yr enfys, neu wenoliaid gwibiog,
Neu wedd amryliw glyn, neu ardd rosynog;
Ysgafndroed grwydra
Werddonau irdwf broydd anfarwoldeb.
Mae fel aderyn gweddw ar y gangen,
Yn trydar beunydd boenus ingoedd angen,
Ond pan y gwena heuldes melyn cariad
Fel gloyn Duw daw allan o'i garchariad,
A chwery'n hoyw yn y maws awelon,—
Fe nawf y nefoedd fel gwna'r pysg yr eigion.


  1. LLATAI, gwas caru, a love messenger
  2. MORWYDD, môr forwyn, a sea-nymph. Dywedir y bydd y rhai hyn ar brydiau yn wylo mor dorcalonnus nes y bydd y morwyr didoriad yn gorfod
    "Cymysgu heli'r llygaid
    A heli hallt y môr."
  3. EURON GALON GALED. Gelwir hi weithiau gan rai o'r beirdd yn Euronwy.. Dodwyd yr addasair calon-galed iddi gan Myrddin. Blodeuai yn y chweched cant. Merch ydoedd i Clydno Eiddin, ac yr oedd iddi frodyr a chwiorydd rai, oblegid sonnir yn fynych am Cynon, a thra bo Mabinogi ar gael, caiff ei chwaer Eurnaid ran o'r oesoldeb cyffredin.