Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A! fe lefarodd ef,
A'r ddaear oll oedd fud;
A distaw, fel y môr,
Pan baid ei gyffro i gyd;
Neu, fel gwna'r nos ddistewi cerdd
Yr adar yn y goedwig werdd.

Fe roes ei gyfraith lem
Mewn tanllyd air o'i law;
A holl genedloedd byd
A grynnent oll gan fraw,
Wrth glywed llais gorchmynnol Duw
Fel taran gref wrth ddynol ryw.

I'r ddaear daeth, drachefn,
O'r nef mewn agwedd dyn;
Tra dirmygedig oedd,
Fe'i darostyngai 'i hun;
Newidio'r goron fflamllyd wnaeth,
Am goron ddrain, er prynnu'r caeth.

Y gyfraith honno roes
A gadwai'n awr ei hun;
Agorai'r ffordd i'r Nef
I edifeiriol un;
Aberthu'i fywyd wnaeth yn lawn,
Gael rhoi i'r ddeddf foddlonrwydd llawn.

Daw eto yr ail waith,
O'i flaen pob gorsedd syrth,
A bydd pob man mor fud
A'r bedd, a'i ddistaw byrth;
Neu rhaid ei adde'n Arglwydd mawr
Pawb oll-os clywir llais yn awr.

Ymsigla'r nef a'r llawr
Hyd eu canolbwnc hwy;