Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r greadigaeth oll,
I fywyd llawer mwy
A gwyd, a dygir hon i gyd
Ger bron Jehofah, barnwr byd.


1852.

Marwolaeth y Parch. D. Rhys Stephen, ac
ereill o weinidogion y Cysegr, yn 1852
.

RHIFWYD gan angau rhyfedd—un arall,
Hwn yrrwyd i'r dyfnfedd;
Gwaglwm yw De a Gogledd,
Athraw o barch aeth i'r bedd.

Dewi enwog adwaenid—fel gwron,
Fel gwir garwr rhyddid;
Dynoethi, torri pob tid,
A garai fe'i mawr gerid.

Ieithwr a'i ragoriaethau—oedd Dafydd,
Difwlch ei wybodau;
Dyn llawn oedd, iawn ei ddoniau,
Mwy 'i wir ddysg na nemawr ddau.

Duwinydd na adwaenir—un o'i uwch
Na'i well ni ddanghosir;
Ei fawredd a glodforir-
Sai ar ei ol amser hir.

Ambell un mawr, mawr am oes—y ceir ef,
Ansicr yw o eiloes;
Derfydd ei ddawn-dawn od oes—
A'i enw gyda'i einioes.

Ond Dewi fu'n fri i'r fawr iaith,—fu'n dŵr,
Fu'n darian mor berffaith,