Bydd e fel yn byw ddwywaith—
Byw'n ei oes, a byw'n ei waith.
Ei ran o boenau'r einioes—a gafodd,
A gofid a'i dromloes;
Ond galar na dig waewloes
Mwy ni ddaw mewn newydd oes.
O daer angau fel y dringodd—at wŷr,
I'w torri fe frysiodd;
Pedwar[1] o werth o'n pau drodd―heblaw fo
I'w syn oer ogo'-Sion a rwygodd!
Aeth Daniel dawel a diwyd—i'r bedd,
Gwr o barch drwy'i fywyd;
A Morgan-dyma ergyd-gwr ffyddlon,
O dan ei goron roed yn y gweryd!
Enwog Ieuan a fu'n gwywo—yn hir,
Tra'n aros ei amdo;
A Thegid aeth i'w ogo',
Er ei ddysg a'i fawredd o.
Blwyddyn na bu hil Adda—yn gweld
Ei gwaeth yw hon yma:
Yn boenus pawb a'i henwa-y flwyddyn
Y cwympai'r gelyn bengampwyr Gwalia.
Hunwch, fy mrodyr anwyl,—yn araf,
Gwna ereill eich gorchwyl,—
E rwygir bedd ryw egwyl,
Cewch gedi i gyd, cewch gadw gwyl.
- ↑ Y Parchn. Daniel Jones, Llanllechid: Morgan Howell; Evan Jones (Ieuan Gwynedd): J. Jones (Tegid), M.A.