Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Troai allan bob troellau—dichwaethiad
A chwithig ffigyrau;
Ac i wawd â'i ergydiau—ef o'i wydd
Yrrai annedwyddd goeg addurniadau.

I galon Awdlau gwelai,—o honynt
Darluniad a dynnai,
A'i bwyntel ef a baentiai
Awen bur heb yr un bai.

Ail nawdd roi i lenyddiaeth,
Yn ei oes, a'i hurddo wnaeth.

Er i'r gwr mawr ei ragorion—am oes,
Dramwyo iaith estron,
Ei hen iaith, a thlysni hon, heb hoced,
Hawdd iawn oedd gweled, ddenodd ei galon.

Y hi a'i thân a'i thonau—aneisor
Oedd nes iddo yn angau;
A hon a ddaeth o'i enau, ddiweddaf,
Dyma y nesaf, hawdd gweld, mewn eisiau.[1]

Ei dreithiau[2] golau gwelir
Sy'n llawn dysg neu addysg wir;
Ar Ryddid a'i oreuddawn
Rhoes Wallter ddewrder ei ddawn;
Darlun yw, a darlun oedd,
O erch loesau'r Chwil-lysoedd,
A dinistr eu dirdyniad
A'u mawr lid mewn amryw wlad.

  1. His last words were uttered in the Welsh Language nearest his heart, and therefore uppermost in extremities." Memoir in the Shrewsbury Chronicle.
  2. "On Agriculture." "On the Life of Man."-"On Liberty."