Ei ddyddiau a ddiweddodd,—yn llawnion
Mewn llannerch a hoffodd,
Yn y tir hwnnw torrodd—y golau,
A'i amryw wenau ar Gymru hunodd.
Olynai 'r bugail enwog—droes air Nâf
Drysor Ne' odidog,
Y cyfieithiad cyfoethog, 'nol hirnos,
I iaith y Werinos anllyth'renog.
Enw Mochnant a Phenmachno—bery
Tra bo 'r dŵr yn treiglo,
Oes yr Haul a'i asur o,—drwy'n gwlad lân,
Am enw Morgan bydd son mewn mawrgo'.
Yn mro y gwir-ddysg ein bardd mawr gerddai,
A'r un addysg a'r doethawr weinyddai,
Am ei ddihalog ddawn y meddyliai,
A'i fawr ragorion ef a hir garai,
Enw hwn parchu a wnai,—rhoes ei serch
Ar y wiw lannerch bu'r gwr olynai.
Dylid rhoi maen, maen mynawr—o werth byth
Wrth ben bwrdd yr allawr,
A'i gerfio er cof gwirfawr,
Am wŷr fu eill dau mor fawr.
Rhaid inni, frwd Awenydd,—dy adael
Dan y dudew gaerydd;
Huno gei dan y gwŷdd, dy awen ddyrch
Hi rodia lennyrch yr ardal lonydd.
Bu yr adeg i brydydd—gael ei roi
Dan glo 'r arch yn llonydd,
Yn alar drwy 'n heolydd,
Ac Och fawr, ac Och a fydd.