Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nes i angau, brenin dychryn,
Ddwyn ein cyrff i byrth y bedd?
Pa gyfeillach gest ag Adda,
Yn nghylch codwm Eden draw,
A'r addewid dirion honno,
A afaelodd yn ei law;
A roes Noah iti hanes
Am ddrygioni yr hen fyd,
A'r ddarpariaeth hynod gafodd
I'w waredu ef mewn pryd?

Beth mae'r Patrieirch yn ddywedyd
Am yr aberth mawr a gaed?
Pa beth ydoedd eu teimladau
Cyn i'r Iesu roi Ei waed?
Beth oedd natur cenadwri
Moses ac Elias gynt,
Ar ben Tabor, gyda'r lesu,
Cyn gwynebu'r farwol hynt?

Gweli Rowlands fawr Langeitho,
Roberts Clynog gryf ei ffydd;
Lewis Rees, a Richard Tibot,
Cawri enwog yn eu dydd;
Y ddau Williams, Watts, a Doddridge,
Doctor Owen, dreiddiwr llym,
Whitfield danllyd, Wesley dyner,
Dafydd Morris fawr ei rym:

Andrew Fuller, Joseph Harris,
Booth, a Herring ddoniol iawn,
Dafydd Jones o Aberteifi,
Robert Hall, a'i lestyr llawn;
Charles o'r Bala, Jones o Ddinbych,
Roberts, gynt o Lanbrynmair,