Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os felly yr oeddynt, dymunem eu calonogi i fyned ymlaen, gan gofio y ddiareb, "Rhaid cropian cyn cerdded."

Ar destun fel hwn, lle y cynygir gwobr mor ardderchog, ni ddisgwyliem gael ond galarnadau o'r fath oreu a mwyaf coeth; ac yn hyn ni chawsom ein cwbl siomi, canys y mae arwydd o lafur mawr ar rai o'r pryddestau. Buasai rhai o honynt, o ran eu syniadau, yn anrhydedd i'r Eisteddfodau mwyaf rhwysgfawr a gynhaliwyd erioed yng Nghymru; ie, yn werth cyhoeddi Eisteddfod er eu mwyn. Yr ydym yn tybio y bydd y bryddest mewn mwy o fri nag un amser ar ol yr Eisteddfod hon. Y mae llawer o gywirdeb iaith ac acen yn rhedeg drwy y rhan fwyaf o'r pryddestau, ac y mae ynddynt gyflawnder o hanes y gwrthddrychau y sonnir am danynt. Y peth y syrthia amryw o honynt yn fyrr ynddo yw amddifadrwydd o'r hyn a ystyrir yn wir farddoniaeth. Y mae rhagor rhwng odlwr neu gynghaneddwr a bardd; a hoffem yn fawr allu gosod argraff o hyn ar feddwl ein beirdd ieuainc. Y mae rhywbeth mewn barddoniaeth heblaw fod y llinellau "yn cylymu yn y pennau." Gall barddoniaeth o'r radd uchaf fod mewn ymadroddion heb odliad na chwlwm, megis y mae gennym engraffau o'r Ysgrythyr Lân, ac yng "Ngholl Gwynfa" Milton; a gall y plethiadau mwyaf cywrain a dyrys fod mor wir amddifad o enaid y gân ag yw copa Cadair Idris. Iaith y teimlad yw barddoniaeth o'r iawn ryw, wedi ei gosod allan mewn geiriau coethedig a dewisol. Nid yw y bardd i lefaru yn nullwedd y cyffredin,