Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er nad oes ganddo drwydded i arfer cruglwyth o eiriau anghyffredin a thywyll, fyddont yn dueddol i dynnu sylw y darllenydd oddiwrth ysbryd y gerdd i chwilio am eu hystyr hwy. Nid ydyw efe yn edrych ar wrthddrych yn yr un goleu ag yr edrycha llygad cyffredin arno, nag yn adrodd ei olygiadau am y cyfryw wrthddrych fel y gwnelai y cyffredin; ac y mae perygl i feirdd ieuainc dybio fod adroddiad cywir a digoll o hanesiaeth unrhyw wrthddrych yn farddoniaeth; yn enwedig os bydd acenion y llinellau yn disgyn yn naturiol, ac os bydd odliadau ynddynt. Yr ydym yn barnu i amryw o'r ymgeiswyr ar y testun presennol feddwl hynny ac fod cannoedd o gyfansoddiadau wedi pasio yng Nghymru fel barddoniaeth, ac wedi ennill tlysau, nad ellid, a dweyd y goreu am danynt, ond arwyddo eu bod yn adroddiad cywir o hanes, heb ddim barddoniaeth. Os nad oes rhywbeth gwahanol i hanes i fod mewn barddoniaeth, ni fyddai waeth cyhoeddi gwobr am yr hanes goreu, heb rith cân, na mynegi y rhoddid gwobr am yr awdl neu y bryddest oreu. Y mae cannoedd o ddynion yng Nghymru yn seiri cynghaneddion, ac yn gallu asio llinellau wrth eu gilydd, na feddant un math o amgyffred beth ydyw barddoniaeth. Y mae gennym hefyd filoedd o gyfansoddiadau dan enw emynnau, a llawer o'r rhai hynny yn cael eu canu bob Saboth, yr arswydem pe meddyliem fod rhywun yn bwriadu eu cyfieithu i'r Saesonaeg, neu i ryw iaith arall. Y mae llawer wedi cymeryd yn eu pennau mai peth hawdd yw gwneud pennill o emyn, neu gasglu