Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Caledfryn.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llyfr o emynnau ; ond yr ydym ninnau yn meddwl mai gorchwyl anhawdd iawn ydyw pob un o'r ddau; a phe gallem argyhoeddi y genedl yn gyffredinol o hyn, caem lai o bethau annheilwng drwy y wasg nag a geir yn y dyddiau yma dan enw emynnau.

Ni wnelai deall mwy ar y pwnc, mai nid barddoniaeth yw pob peth sydd yn cael ei gyfansoddi mewn mesur o ryw hyd neilltuol, ddrwg i'n pryddestwyr yng Nghymru. Y mae Coleridge yn dweyd mai y rhagor sy rhwng rhyddiaeth a barddoniaeth yw mai "geiriau yn y drefn oreu yw rhyddiaeth, ac mai y geiriau goreu yn y drefn oreu yw barddoniaeth." Y mae yn rhaid i ddyn, cyn y byddo yn fardd, nid yn unig weled pethau yn is na'r wyneb, ond rhaid iddo deimlo mor ddwfn ag y mae efe yn gweled; rhaid iddo nid yn unig weled fod y peth yn wir, ond rhaid iddo hefyd deimlo ei fod yn wir. Prydyddiaeth, gan hynny, yw gwirionedd wedi ei ysbrydoli gan deimlad, ac wedi ei anadlu i ffurf o brydferthwch ac arucheledd.

"Number and rhyme, and that harmonious sound
Which not the nicest ear with harshness wound.
Are necessary,-yet but vulgar arts;
And all in vain those superficial parts
Contribute to the structure of the whole,
Without a genius too-for that's the soul."


Y mae "Un o'r Galarwyr" wedi bod yn llafurus dros ben; ac y mae ei alargan yn cynnwys hanes y gwrthddrychau y galerir ar eu hol, ynghyd a'r teithi perthynol i nodwedd pob un o honynt, yn lled gywir. Ei fai pennaf yw dweyd gormod, heb goethi digon ar ei