feddyliau a'i linellau y mae yn gollwng llawer o honynt yn rhy rhwydd; ychydig o drydan sydd yn y darnau nesaf at farddoniaeth o ran eu hysbryd. Er nad ellir dweyd fod y cyfansodd- iad yn gwbl ddiflas, eto nid oes ynddo ddim o'r gorffeniad a ddisgwylid. Na ddigalonned yr awdwr; os ieuanc ydyw, gall ddyfod ymlaen yn enwog. Gwnai bwriad ymaith y darnau canlynol leshad i'w alargan. Ym marwnad Ieuan Gwynedd:—
"Cân, O cân i'w goffadwr'aeth,
Ysgrifena'i oes i lawr,
Cerfia'n nghreigiau'r greadigaeth
Deithi ei ogoniant mawr;
Tyn ei ddarlun oll rinweddol,
Minnau a'i hongianaf ef
Draw wrth odreu'r seren hwyrol,
Ac ar dalcen haul y nef."
Y mae y cais yn y pennill a'r addewid yn afresymol. I ba beth y sonia yr awdwr am "gerfio yng nghreigiau'r greadigaeth deithi gogoniant ein hanwyl Ieuan? Ni ddisgwyliasid mwy na hyn o anrhydedd pe buasai efe yn dduw. Y mae son y buasai yr awdwr yn hongian darlun Ieuan wrth "odreu'r seren hwyrol, ac ar dalcen yr haul," yn ynfyd: pa fudd fuasa i gosod pentwr o eiriau yn y fath leoedd? Y mae siarad fel hyn yn myned dros ben pob terfyn o ganmoliaeth, ac yn tueddu i droi y gwrthddrych a ddyrchefir i ddirmyg. Nid oes neb yn meddu mwy o barch i goffadwriaeth Ieuan Gwynedd nag ydym ni; eto nid allwn gredu y cawsai ei goffadwriaeth le ymhlith