Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fe guchia gwyneb llawer tad,
Pan glywant gân cariadau:
Tra'u plant eu hunain wrth eu traed
Yn chwerthin am eu pennau;
Ni welais i'run deryn bach
Yn hoff o fyw yn unig;
Ac ni fu oen yn hoff o'i fam
Nad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn
Na mam yn hoff o'i phlentyn,
Nad ydoedd serch at ferch neu fab
Yn gyntaf wedi ennyn.
Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
A'i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
I wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawn
Ar gangen fawr dynoliaeth,
Os bydd ei wedd heb wrido'n goch,
Yng ngŵydd ei anwyl eneth.
Ond nid athromaeth dâl i feirdd,—
Barddoniaeth ydyw'r testyn:
Am hynny tyred, Menna Rhên,
Fy awen a fy nhelyn.

VI

Pan welais gyntaf Menna Rhên
Yn myned tua'r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
Yn dirion ar ei dwyrudd;
Ac efo'i brawd y byddai beunydd,
Yn adsain miwsig hyd y meusydd;