Prawfddarllenwyd y dudalen hon
XII
Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon.
A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gyntarioed.
Mi drois yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y deryn mwyn.
Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren;
Ac yno'r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen.
O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd—
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.
XIII
Ar ol i'r gog fy ngadaw, efo'r pren,
Dechreuais ganu'r alaw Mentra Gwen;
Cyfodi wnes yn union,
A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.