Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NANT Y MYNYDD

Nant y Mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant.

Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn hedeg—
O na bawn fel deryn bach.

Mab y Mynydd ydwyf innau,
Oddicartref yn gwneyd cân,
Ond mae'm calon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân.