Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gôg yn canu
A'r blodau ar y drain,
Yr ŵyn ar ben y mynydd
Yn chware naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
Ar freichiau gwyn ei fam.

XVI

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
Gofynion am'chwaneg o ŷd;
Ychwaneg o fwyd i'r rhai bach,
Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
Yr oedd imi gysur i'w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,
A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a'm gwraig,
Ar tŷ'n bendramwnwgl bron.—
Yr oedd hi'n bur hoff o roi tro
I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
Dechreuodd areithio fel hyn:—

"Cymeryd fy hel a fy nhrin,
Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
Heb deimlad—na llygad—na chlyw!
O! na wnaf, os gwelwch chwi'n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!