Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXIV

Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau'r haul;
'Rol gadael gwely gwaeledd.
A llawer tywydd garw
Sydd er yr amser hwnnw,
Mae'm plant yn wragedd ac yn wŷr,
A Menna wedi marw.

Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ond chododd Menna byth mo'i phen
'Rol ini gladdu'r baban.
'Rwy'n cofio'r Sul y Blodau
Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai mynd i'r bedd'roedd hithau.

Penliniodd dan yr ywen,
A phlannodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri'r coed,
A brig o droed y glomen.
Y blodau gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gywo'r oedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a'i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw'r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
Yw' r unig drysor fedda.
Y fodrwy hon a gadwaf,
Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd,
Gwreichionen awen, olaf.