Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXV

Mae Menna'n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw'r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy'm cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi—
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
'Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy'r adduned yn oer ac yn fud.

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
'R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen,
Y clychau yn canu, a'r byd fel yn ffol,—
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di'n ol.
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi;
O! fodrwy'r adduned, nes gwywo'r llaw hon,
Fe'th gadwaf di'n loew, fe'th gadwaf di'n gron.

XXVI

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd,
Ogylch traed y graig a'r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae'r heniaith yn y tir,
A'r alawon hen yn fyw.