Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym,
Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr,
Yn chware â chreigiau peryglon;
O'm amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffôl,
Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
Y tanllyd lythrennau "Na Phecha;"
Pe rhuai taranau pob oes yn un llef-
"Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;"
Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I'm hatal ar ffordd annuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."


GWYN, GWYN YW MUR

Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,
O'i bared tyf rhosynnau coch a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw—
Tu fewn mae'r ferch, fy nghariad wen, yn byw.